Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc; Ymchwiliad i Ofal Newyddenedigol.

 

Hydref 2012.

 

 

 

Diolch i chi am eich llythyr dyddiedig 10 Medi 2012 a oedd yn amgáu adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar yr Ymchwiliad i Ofal Newyddenedigol.

 

Croesawn y ffocws parhaol hwn ar hybu’r canlyniadau gorau posibl i fabanod gwael a chynamserol. Mae i’r gwasanaeth pwysig hwn ganlyniadau pellgyrhaeddol i oroesiad a lles hirdymor y 10% o fabanod y mae arnynt angen gofal newyddenedigol arbennig.

 

Mae datblygiadau gwyddonol pwysig y degawd diwethaf yn o ran gwella cyfraddau goroesi ymysg babanod cynamserol yn cael eu hadlewyrchu yn y safon drylwyr, seiliedig ar dystiolaeth gan Gymdeithas Meddygaeth Amenedigol Prydain (BAPM) y mae’r Rhwydwaith Newyddenedigol yn cynnal archwiliad 6 misol yn ei herbyn. Mae’r gwaith hwn yn amlygu maint y dasg i sefydlu’r amgylchedd iawn, y cludiant a’r staff medrus i ddwyn y gwasanaeth i’r safonau iawn.

 

Mae cynlluniau’r Byrddau Iechyd Lleol (BILl) ar gyfer ad-drefnu yn rhan allweddol o sicrhau’r cyfuniad sgiliau iawn yn y lle iawn ar yr adeg iawn. Mae cynaliadwyedd hyfforddiant yn dibynnu ar gael gwasanaethau gyda’r niferoedd digonol i fodloni safonau proffesiynol y Coleg Brenhinol, y Cyngor Meddygol Cyffredinol a safonau proffesiynol eraill.

 

Yn dilyn cyfres o ymweliadau yn haf 2012 gan Lywodraeth Cymru a’r Rhwydwaith Newyddenedigol, lluniodd y BILlau gynlluniau cadarn ar gyfer gwasanaethau gan gynnwys datblygu cynlluniau ar gyfer hyfforddiant ac addysg i staff. Roedd y rhain eisoes yn cael eu gweithredu erbyn adeg cyhoeddi’r adroddiad hwn, a bydd staff Llywodraeth Cymru yn monitro gweithredu’r cynlluniau hyn ac yn dwyn y BILlau i gyfrif am gyflenwi.

 

Mae Llywodraeth Cymru, felly, eisoes yn gweithio’n weithgar gyda’r BILlau a’r Rhwydwaith Newyddenedigol i roi sylw i’r her ddifrifol o sicrhau gwasanaethau newyddenedigol addas i wasanaethu Cymru, ac mae’n cefnogi’r BILlau i wella gwasanaethau.

 

Isod, rwy’n datgan fy ymateb i argymhellion unigol yr Adroddiad. Rwyf wedi gofyn i Brif Weithredwr y GIG rannu’r argymhellion gyda Phrif Weithredwyr y BILlau.

 

 


Mae’r Pwyllgor yn argymell:

 

Argymhelliad 1

Bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y byrddau iechyd lleol yn cynnwys cynllun busnes manwl yn eu cynlluniau i ad-drefnu gwasanaethau i fynd i’r afael â’r prinder nyrsys.

 

Ymateb: Derbyn

 

Derbyniwn yr argymhelliad a bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y BILlau yn paratoi cynlluniau busnes manwl a fydd yn ymwneud â materion staffio perthnasol. Rwyf wedi gofyn i Brif Weithredwr y GIG rannu’r argymhellion hyn gyda Phrif Weithredwyr y BILlau. Nid yw cynllun busnes manwl yn ofynnol ar gyfer ymgynghori cyhoeddus ond mae’n ofynnol i roi i’r Byrddau y sicrwydd bod cynlluniau yn fforddiadwy ac yn gyraeddadwy.

 

Ysgrifennodd Prif Weithredwr y GIG at y BILlau ar ddechrau’r broses ymgynghori ynghylch ad-drefnu. Yn ei lythyr, gofynnodd i’r Byrddau eu sicrhau eu hunain  bod y cynlluniau yn weithredol gyraeddadwy o safbwynt y gweithlu, yn ogystal ag yn fforddiadwy ac yn gynaliadwy.

 

Goblygiadau Ariannol Dim. Caiff unrhyw gostau ychwanegol eu talu o’r cyllidebau rhaglen presennol.

 

Argymhelliad 2

Erbyn Rhagfyr 2012, rhaid i’r byrddau iechyd lleol gyflwyno cynllun manwl, a fydd yn cynnwys amserlenni, i Lywodraeth Cymru, yn dangos sut y maent am fynd i’r afael â’r prinder nyrsys yn eu bwrdd, a hynny ar bob lefel o ofal newyddenedigol.

 

Ymateb: Derbyn

 

Mae’r BILlau eisoes wedi llunio cynlluniau gweithredu manwl ar gyfer gofal newyddenedigol, gan gynnwys camau gweithredu i roi sylw i’r prinder nyrsys, dan oruchwyliaeth y Rhwydwaith Newyddenedigol. Bydd y Rhwydwaith yn adolygu ac yn cynghori ar gynlluniau’r BILlau ac yn monitro’r cynnydd gan ddefnyddio data a gesglir drwy gyfrwng yr adolygiad o gapasiti 6 misol. Bydd Llywodraeth Cymru yn dwyn y BILlau i gyfrif am gyflenwi cynlluniau gweithredu newyddenedigol.

 

Goblygiadau Ariannol Dim. Caiff unrhyw gostau ychwanegol eu talu o’r cyllidebau rhaglen presennol.

 

Argymhelliad 3

Bod Llywodraeth Cymru yn mynnu bod y byrddau iechyd lleol yn cynhyrchu adroddiad blynyddol ar y modd y maent yn rhoi Fframwaith Cymru Gyfan ar gyfer Hyfforddi Nyrsys Newyddenedigol ar waith.

 

Ymateb: Derbyn

 

Derbyniwn yr argymhelliad a chydnabyddwn bod angen cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a’r BILlau, ac ystyried rôl Llywodraeth Cymru o ran comisiynu addysg gofal iechyd anfeddygol. Bydd swyddogion yn gweithio gyda’r Rhwydwaith Newyddenedigol i oruchwylio hyn. 

 

Goblygiadau Ariannol Dim. Caiff unrhyw gostau ychwanegol eu talu o’r cyllidebau rhaglen presennol.

 

Argymhelliad 4

Bydd Llywodraeth Cymru yn gofalu bod yr holl fyrddau iechyd lleol yn sicrhau bod addysg a datblygiad proffesiynol parhaus ar gael drwy roi cymorth digonol i ryddhau staff o’u dyletswyddau, gan ystyried yr adegau prysur mewn unedau newyddenedigol a chynllunio’n unol â hynny.

 

Ymateb: Derbyn mewn Egwyddor

 

Mae cynlluniau gweithredu’r BILlau yn cynnwys camau i roi sylw i’r prinder nyrsys - bydd cynyddu’r niferoedd yn ei gwneud yn haws i ryddhau staff ar gyfer hyfforddiant. Bydd y Rhwydwaith Newyddenedigol yn monitro faint o nyrsys sy’n cael eu hanfon ar gyrsiau arbenigol a ddarperir gan Brifysgolion a pha gyfran o’r gweithlu nyrsio sydd wedi cyflawni hyn. Bydd y Rhwydwaith Newyddenedigol yn cefnogi’r BILlau a bydd Llywodraeth Cymru yn dwyn y BILlau i gyfrif am gyflenwi’r cynlluniau gweithredu.

 

Goblygiadau Ariannol Dim. Caiff unrhyw gostau ychwanegol eu talu o’r cyllidebau rhaglen presennol.

 

Argymhelliad 5

Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod unrhyw faban a gaiff ei eni yng Nghymru yn cael gofal gan neonatolegydd os oes angen gofal newyddenedigol dwys arno

 

Ymateb: Gwrthod

 

Mae pob BILl yn gwneud cynlluniau gweithlu i sicrhau bod unedau wedi’u staffio i safon ddiogel i gydymffurfio â safonau BAPM.

 

Fel y’i drafftiwyd, mae’r argymhelliad hwn y tu allan i safonau cyfredol BAPM sy’n mynnu bod neonatolegydd yng ngofal gwasanaethau Gofal Newyddenedigol Dwys i fabanod sydd angen gofal dwys “parhaus”. Gall pediatregyddion cyffredinol a/neu neonatolegyddion ddarparu gofal dwys tymor byr yn ddiogel. 

 

Goblygiadau Ariannol Dim. Caiff unrhyw gostau ychwanegol eu talu o’r cyllidebau rhaglen presennol

 

Argymhelliad 6

Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y byrddau iechyd lleol yn cynnwys cynllun busnes manwl yn eu cynlluniau i ad-drefnu gwasanaethau er mwyn mynd i’r afael â’r prinder staff meddygol.

 

Ymateb: Derbyn

 

Derbyniwn yr argymhelliad a bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y BILlau yn paratoi cynlluniau busnes manwl i gefnogi ad-drefnu gwasanaethau, gan gynnwys rhoi sylw i faterion staffio. Rwyf wedi gofyn i Brif Weithredwr y GIG rannu’r argymhellion hyn gyda Phrif Weithredwyr y BILlau. Nid yw cynllun busnes manwl yn ofynnol ar gyfer ymgynghori cyhoeddus ond mae’n ofynnol i roi i’r byrddau y sicrwydd bod cynlluniau yn fforddiadwy ac yn gyraeddadwy.

 

Ysgrifennodd Prif Weithredwr y GIG at y BILlau ar ddechrau’r broses ymgynghori ynghylch ad-drefnu. Yn ei lythyr, gofynnodd i’r Byrddau eu eu sicrhau eu hunain  bod y cynlluniau yn weithredol gyraeddadwy o safbwynt y gweithlu yn ogystal ag yn fforddiadwy ac yn gynaliadwy.

 

Goblygiadau Ariannol Dim. Caiff unrhyw gostau ychwanegol eu talu o’r cyllidebau rhaglen presennol.

 

Argymhelliad 7

Erbyn mis Rhagfyr 2012, rhaid i’r byrddau iechyd lleol gyflwyno cynllun manwl, a fydd yn cynnwys amserlenni, i Lywodraeth Cymru, yn dangos sut y maent am fynd i’r afael â’r prinder staff meddygol yn eu bwrdd, a hynny ar bob lefel.

 

Ymateb: Derbyn

 

Mae’r BILlau eisoes wedi gwneud cynlluniau gweithredu manwl ar gyfer gofal newyddenedigol, gan gynnwys materion staffio meddygol, dan oruchwyliaeth y Rhwydwaith Newyddenedigol. Bydd y Rhwydwaith yn adolygu ac yn cynghori ar gynlluniau’rBILlau ac yn monitro’r cynnydd gan ddefnyddio data a gesglir drwy gyfrwng yr adolygiad o gapasiti 6 misol. Bydd Llywodraeth Cymru yn dwyn y BILlau i gyfrif am gyflenwi’r cynlluniau gweithredu hyn.

 

Goblygiadau Ariannol Dim. Caiff unrhyw gostau ychwanegol eu talu o’r cyllidebau rhaglen presennol.

 

 

Argymhelliad 8

Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu effeithlonrwydd Deoniaeth Cymru o ran sicrhau bod digon o staff meddygol yn cael eu hyfforddi i ddiwallu anghenion ysbytai Cymru, a hynny yn y tymor byr, y tymor canolig a’r hirdymor.

 

Ymateb: Derbyn

 

Mae Deoniaeth Cymru eisoes wedi’i hadolygu (adolygiad Macpherson) ac mae gwaith parhaus yn mynd rhagddo. Mae cynllunio ar gyfer niferoedd staff meddygol i’r dyfodol yn cael ei wneud gan arweinwyr ad-drefnu penodol arbenigol a benodwyd gan y Ddeoniaeth e.e. mewn Pediatreg, sy’n gwneud gwaith modelu manwl. Bydd angen i’r anghenion hyfforddiant yn ysbytai Cymru gynnwys amrediad o bediatregyddion hyfforddedig gan gynnwys neonatolegyddion arbenigol a hefyd bediatregyddion cyffredinol gyda’r sgiliau i staffio unedau lle nad yw’r lefelau dwysedd mor uchel.

 

Byddaf yn cyfarfod â’r Athro Derek Gallen i drafod gwaith y Ddeoniaeth.

 

Goblygiadau Ariannol Dim. Caiff unrhyw gostau ychwanegol eu talu o’r cyllidebau rhaglen presennol.

 

Argymhelliad 9

Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y byrddau iechyd lleol, fel rhan o’u cynlluniau i ad-drefnu gwasanaethau, yn cynnwys gwybodaeth am y modd y bydd y gwasanaethau, ar ôl eu had-drefnu, yn bodloni Safonau Newyddenedigol Cymru Gyfan.

 

Ymateb: Derbyn

 

Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y BILlau yn cynnwys gwybodaeth am y modd y bydd y gwasanaethau yn bodloni Safonau Newyddenedigol Cymru Gyfan yn y cynlluniau busnes er mwyn cefnogi ad-drefnu gwasanaethau. Rwyf wedi gofyn i Brif Weithredwr y GIG rannu’r argymhellion hyn gyda Phrif Weithredwyr y BILlau. Nid yw cynllun busnes manwl yn ofynnol ar gyfer ymgynghori cyhoeddus ond mae’n ofynnol i roi i’r byrddau y sicrwydd bod cynlluniau yn fforddiadwy ac yn gyraeddadwy.

 

Ysgrifennodd Prif Weithredwr y GIG at y BILlau ar ddechrau’r broses ymgynghori ynghylch ad-drefnu. Yn ei lythyr, gofynnodd i’r Byrddau eu sicrhau eu hunain  bod y cynlluniau yn weithredol gyraeddadwy o safbwynt y gweithlu, yn ogystal ag yn fforddiadwy ac yn gynaliadwy.

 

Goblygiadau Ariannol Dim. Caiff unrhyw gostau ychwanegol eu talu o’r cyllidebau rhaglen presennol.

 

Argymhelliad 10

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio ar y cyd â’r byrddau iechyd lleol a’r Rhwydwaith Newyddenedigol i sicrhau bod nifer ofynnol o gotiau ar gael, ar bob lefel o ofal, a’u bod yn ddigon hygyrch ac yn cael eu staffio’n briodol.

 

Ymateb: Derbyn

 

Mae hwn yn waith sy’n parhau. Mae’r Adolygiad o Gapasiti Newyddenedigol yn asesu a yw’r BILlau, gan weithio ar draws y cymunedau newyddenedigol, yn sicrhau bod cotiau’n cael eu defnyddio’n effeithlon ac yn cael eu staffio’n briodol. Mae’r Rhwydwaith Newyddenedigol yn cefnogi’r BILlau i sicrhau hyblygrwydd y trefniadau cydweithio.

 

Goblygiadau Ariannol Dim. Caiff unrhyw gostau ychwanegol eu talu o’r cyllidebau rhaglen presennol

 

 

Argymhelliad 11

Erbyn mis Rhagfyr 2012, Llywodraeth Cymru i sicrhau y bydd y byrddau iechyd lleol, mewn cydweithrediad â Rhwydwaith Newyddenedigol Cymru Gyfan, yn cynhyrchu rhaglen i ehangu a gwella gwasanaethau i rieni a chymunedau.

 

Ymateb: Derbyn mewn Egwyddor

 

Er ein bod yn derbyn yr argymhelliad mewn egwyddor, nid yw’r amserlen o fewn cyrraedd. Bydd y broses yn dechrau erbyn Rhagfyr 2012 i ganiatáu 6 mis ar gyfer ymgynghori yn enwedig gyda grwpiau rhieni. Bydd y Rhwydwaith Newyddenedigol yn gweithio gyda rhieni, BLISS a’r BILlau i amlinellu gweledigaeth ar gyfer cefnogaeth well i rieni ac i nodi themâu a blaenoriaethau o safbwynt datblygu gwasanaethau yn unol â safonau BAPM.

 

Goblygiadau Ariannol Dim. Caiff unrhyw gostau ychwanegol eu talu o’r cyllidebau rhaglen presennol.

 

 

Argymhelliad 12

Llywodraeth Cymru i gwblhau dadansoddiad o gostau’n ymwneud â rhoi gwasanaeth trafnidiaeth 24 awr ar waith ledled Cymru.

 

Ymateb: Derbyn mewn Egwyddor

 

Derbyniwn sail yr argymhelliad. Mae’r Rhwydwaith Newyddenedigol yn cynnal ymarferiad gwerthuso opsiynau wedi’i gostio ynghylch gwasanaeth trafnidiaeth 24 awr at y pwrpas ledled Cymru. Dylai hwn fod wedi’i gwblhau erbyn diwedd Rhagfyr 2012.

 

Goblygiadau Ariannol – Nid oes dim goblygiadau ariannol i gynnal yr ymarferiad gwerthuso opsiynau.

 

 

Argymhelliad 13

Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y byrddau iechyd lleol yn sicrhau eu bod yn ystyried yr amser y mae’n ei gymryd i drosglwyddo babanod wrth asesu cynlluniau i ad-drefnu gwasanaethau.

 

Ymateb: Derbyn

 

Derbyniwn y dylai’r BILlau roi ystyriaeth i’r amser y mae’n ei gymryd i drosglwyddo babanod wrth asesu cynlluniau i ad-drefnu gwasanaethau. Rwyf wedi gofyn i Brif Weithredwr y GIG rannu’r argymhellion hyn gyda Phrif Weithredwyr y BILlau.

 

Bydd y Fforwm Clinigol Cenedlaethol yn craffu ar y cynlluniau ad-drefnu gan roi ystyriaeth i’r amser y mae’n ei gymryd i drosglwyddo babanod.

 

Goblygiadau Ariannol Dim. Caiff unrhyw gostau ychwanegol eu talu o’r cyllidebau rhaglen presennol.

 

 

Argymhelliad 14

Erbyn mis Rhagfyr 2012, bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu system effeithiol i’r byrddau iechyd lleol fedru asesu a pharatoi adroddiadau’n dangos i ba raddau y maent yn cydymffurfio â Safonau Newyddenedigol Cymru Gyfan, gan sicrhau dull adrodd cyson a llwybr atebolrwydd clir os ceir achosion o ddiffyg cydymffurfio.

 

Ymateb: Derbyn

 

Mae’r Rhwydwaith Newyddenedigol yn adolygu’r Safonau Newyddenedigol ar ran y BILlau a bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhad drwy gyfrwng y Rhwydwaith Newyddenedigol.

 

 

Goblygiadau Ariannol Dim. Caiff unrhyw gostau ychwanegol eu talu o’r cyllidebau rhaglen presennol.